Mohammed V, brenin Moroco
Mohammed V, brenin Moroco | |
---|---|
Ganwyd | 10 Awst 1909 Fès |
Bu farw | 26 Chwefror 1961 Rabat |
Dinasyddiaeth | Moroco |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | sultan of Morocco, sultan of Morocco, brenin Moroco |
Tad | Yusef of Morocco |
Priod | Lalla Abla bint Tahar, Lalla Bahia |
Plant | Hassan II, brenin Moroco, Lalla Fatima Zohra, Y Dywysoges Lalla Aicha o Foroco, Prince Moulay Abdallah of Morocco, Lalla Amina of Morocco, Y Dywysoges Lalla Malika o Foroco, Y Dywysoges Lalla Nuzha o Foroco |
Perthnasau | Mohammed VI, brenin Moroco, Ahmed Osman, Prince Moulay Hicham of Morocco, Prince Moulay Ismail of Morocco, Lalla Latifa, Moulay Ali Alaoui, Lalla Joumala Alaoui, Moulay Abdallah ben Ali Alaoui, Moulay Youssef Alaoui, Prince Moulay Rachid of Morocco, Princess Lalla Hasnaa of Morocco, Princess Lalla Asma of Morocco, Princess Lalla Meryem of Morocco |
Llinach | 'Alawi dynasty |
Gwobr/au | Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Cymrawd y 'Liberation', Prif Gadlywydd Lleng Teilyngdod, Urdd Teilyngdod, Grand Collar of the Order of the Nile, Order of al-Hussein bin Ali, Urdd Umayyad, Urdd Abdulaziz al Saud, Grand Cordon of the order of Nichan Iftikhar, Coler Urdd Siarl III, The honorary doctor of Lebanese University, Imperial Order of the Yoke and Arrows |
Rheolwr Moroco oedd Mohammed V (10 Awst 1909 – 26 Chwefror 1961) (Arabeg: محمد الخامس), a deyrnasodd fel Swltan Moroco o 1927 hyd 1953, a gafodd ei alltudio yn 1953 ac a deyrnasodd eto yn gyntaf fel Swltan (1955-1957) ac wedyn fel brenin (1957-1961). Ei enw llawn oedd Sidi Mohammed ben Yusef, sef mab (ben) y Swltan Yusef, a olynodd fel Swltan ar ôl ei farwolaeth yn 1927. Roedd yn aelod o Freninllin yr Alaouitiaid.
Ar 20 Awst, 1953, gorfododd yr awdurdodau gwladfaol Ffengig y Swltan Mohammed V a'i deulu i adael Moroco am alltudiaeth ar ynys Corsica. Rhoddwyd perthynas iddo, Mohammed Ben Aarafa, ar yr orsedd yn ei le. Y rheswm am hynny oedd fod y Morocwyr yn gweld Mohammed V fel arweinydd yn y frwydr dros annibyniaeth i'r wlad.
Trosglwyddwyd Mohammed V a'i deulu i ynys Madagasgar, un arall o wladfeydd Ffrainc ar y pryd, yn Ionawr 1954. Dychwelodd Mohammed V o alltudiaeth ar 16 Tachwedd, 1955, a chafodd ei gydnabod fel Swltan unwaith yn rhagor, er ei fod yn wrthynebus i reolaeth Ffrainc. Yn Chwefror 1956 llwydodd i gael annibyniaeth i Foroco mewn trafodaethau gyda llywodraeth Ffrainc ac yn 1957 cymerodd y teitl Brenin Moroco.
Bu farw ar 26 Chwefror 1961, ar ôl derbyn llawfeddygaeth, ac fe'i olynwyd gan ei fab Hassan II.
Enwir dinas Mohammédia, ger Casablanca, ar ei ôl, er anrhydedd iddo.